Lefelau Iaith
Cynigir yr adnoddau ar y wefan hon ar bum lefel:
Mynediad
Dyma'r adnoddau ar gyfer dechreuwyr neu ddysgwyr nad ydynt wedi cwblhau blwyddyn mewn dosbarth nos unwaith yr wythnos neu hanner Wlpan.
Sylfaen
Fel arfer, bydd myfyrwyr wedi cwblhau blwyddyn gyfan mewn dosbarth nos unwaith yr wythnos neu wedi cwblhau hanner Wlpan. Mae'n bosib y bydd myfyrwyr hefyd wedi astudio'r Gymraeg yn y gorffennol ac yn awyddus i ail-afael yn y dysgu heb fynd yn ôl i'r dechrau.
Canolradd
Mae'n bosib y bydd myfyrwyr ar y lefel hon yn ystyried sefyll TGAU (ail iaith) neu arholiad Canolradd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ar gyfer oedolion sydd yn dysgu'r Gymraeg. Byddan nhw fel arfer wedi cwblhau Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 mewn dosbarth nos unwaith yr wythnos, cwrs Wlpan llawn neu 100-150 o oriau o astudio.
Uwch
Bydd myfyrwyr yn agosáu at y bont rhwng dysgwyr a siaradwyr rhugl. Mae'n bosib y byddan nhw'n ystyried paratoi ar gyfer arholiad Safon Uwch (Lefel A) neu arholiad Uwch Cyd-bwyllgor Addysg Cymru ar gyfer oedolion sydd yn dysgu'r Gymraeg.
Gloywi
Dyma'r lefel uchaf. Bydd llawer o'r myfyrwyr yn ddysgwyr sydd wedi codi trwy'r lefelau eraill. Ceir adnoddau ar y lefel hon hefyd ar gyfer Cymry Cymraeg sydd am loywi'u hiaith.
