Help wrth Dalu

Mae Acen yn credu na ddylai neb gael ei wahardd rhag dysgu'r Gymraeg am resymau ariannol. Wrth reswm, byddai'n amhosib i ni roi'r holl adnoddau i ffwrdd. Fydden ni ddim yn para'n hir iawn.

Fodd bynnag, os oes angen cymorth arnoch, cewch all-lwytho'r ffurflen a'i hanfon aton ni. Mae cannoedd o fyfyrwyr yn cysylltu ag Acen bob blwyddyn a chedwir yr holl wybodaeth yn hollol gyfrinachol.

Os cewch chi drafferth o gwbl i all-lwytho'r ffurflen, ffoniwch 02920 300800 ac anfonwn ni gopi atoch chi yn syth.