Hanes Acen
Sefydlwyd Acen yn brosiect tymor byr gan S4C ym 1989. O fewn blwyddyn roedd Acen wedi'i ymgorffori yn gwmni cyfyngedig ac wedi dechrau gweithio ag S4C a chwmniau teledu blaengar fel Fflic, Hel Straeon a HTV i greu profiadau teledu ar gyfer dysgwyr ar bob lefel.
Gyda dyfodiad y Rhyngrwyd, dechreuodd Acen greu gwasanaethau ar gyfer dysgwyr ar y We.
Mae Acen bellach yn cynnig ystod eang iawn o adnoddau - cylchgronau, llyfrau, tapiau fideo, DVD , CD a chyrsiau ar-lein. Mae llawer o'r cyrsiau ar-lein ar gael am ddim.
Nid yw Acen erioed wedi dosbarthu elw. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, roedd unrhyw elw yn cael ei gyfamodi i elusen. Erbyn hyn, mae Cwmni Acen ei hun yn elusen gofrestredig ac mae'n defnyddio unrhyw elw i ddatblygu adnoddau newydd ac i ddarparu cyrsiau a gwasanaethau ar gyfer pobl nad ydynt mewn sefyllfa i dalu amdanyn nhw.
