Hawliau Dychwelyd

O dan Reoliadau Gwerthu o Bell y Deyrnas Gyfunol, mae gennych yr hawl i ganslo'r cytundeb i brynu unrhyw un o'r eitemau ar yr archeb hon o fewn 7 diwrnod gwaith, gan ddechrau y diwrnod drannoeth y diwrnod y derbyniwch yr eitem. Mae hyn yn wir am bob un o'n nwyddau ar wahân i ganslo cytundebau i brynu DVD, VHS, Sain, a meddalwedd lle bo'r sêl ar yr eitem wedi'i thorri. Ar wahân i'r eithriad hwn, derbynnir nwyddau a ddychwelir heb eu defnyddio ac mewn cyflwr "fel newydd".

Cyn gynted ag y derbyniwn y nwyddau a ddychwelir, ad-delir pris prynu'r eitem honno a'r rhan berthnasol o'r tâl cludiant.

Yn y cyfamser, os bydd unrhyw broblemau, a wnewch chi anfon e-bost atom i post@acen.co.uk. Gallwch ffonio 02920 300 800 hefyd. Os dwedwch bod gennych ymholiad Siop Acen, fe gewch siarad ag aelod o staff gwerthiannau'r cwmni. Os na ellir ateb eich ymholiad yn gyflym, fe drefnwn i'ch galw yn ôl ar adeg cyfleus.