Dosbarthu

Delivery

Dosbarthu Safonol

Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adnoddau o fewn 3 diwrnod gwaith os dych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Bydd archebion cwsmeriaid y tu allan i'r Deyrnas Unedig yn cael eu hanfon fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith i ddyddiad derbyn yr archeb. Bydd nwyddau'n sicr yn cael eu hanfon o fewn y 30 diwrnod a ganiateir trwy gyfraith yn y Deyrnas Unedig.

Dosbarthu Cyflym

Mae modd gwarantu y byddwch yn derbyn eich nwyddau y diwrnod gwaith nesaf yn y DU os cawn eich archeb erbyn 11.00 a.m. Mae'r cymal hwn yn ddarostynedig i'r amodau a nodir dan 'Cyflenwi' a 'Force Majeure' yn yr Amodau Gwerthu.

Cyflenwi Chwap

Mae modd gwarantu y byddwch yn derbyn eich nwyddau yr un diwrnod yng Nghaerdydd ac o fewn 5 milltir i'r Brifddinas. Rhaid derbyn yr archeb erbyn 11.00 a.m. a gwarentir y byddwch yn derbyn y nwyddau erbyn 5.00 p.m.

Mae modd trafod trefniadau arbennig ag Acen. Mae'r cymal hwn yn ddarostynedig i'r amodau a nodir dan 'Cyflenwi' a 'Force Majeure' yn yr Amodau Gwerthu.