Arholiadau

Examinations

Mae Acen yn cynnig asesiadau trwy'r flwyddyn. Cliciwch yma i fynd i'r wefan ar gyfer cyrsiau a werthir ar y wefan hon. Does dim angen talu am asesiadau Acen. Am asesiadau mwy manwl ac ystod eang o gyrsiau ar-lein, cewch ymuno ag www.dysgwr.com.

Mae Cyd-bwyllgor Addysg Cymru yn cynnig arholiadau ffurfiol ar bedair lefel ar hyn o bryd - Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch (gweler Lefelau Iaith).

Cynhelir yr arholiadau unwaith y flwyddyn ac mae angen cofrestru ymlaen llaw. Cynhelir yr arholiadau mewn canolfannau yng Nghymru ac weithiau disgwylir i fyfyrwyr fod mewn sefyllfa i deithio.  Mae'r pwyslais ar sgiliau llafar.

Mae amserlen 2008 fel a ganlyn:

Mynediad

Diwrnod olaf ar gyfer cofrestru 29 Ionawr 2008
Dyddiad yr arholiad 25 Ebrill 2008
(ond caniateir sefyll yr arholiad gyda'r nos 24 Ebrill mewn rhai canolfannau)
Ffi £18.00

Sylfaen

Diwrnod olaf ar gyfer cofrestru 1 Chwefror 2008
Dyddiad yr arholiad 11 Mai 2008
Ffi £20.00

Canolradd

Diwrnod olaf ar gyfer cofrestru 20 Chwefror 2008
Dyddiad yr arholiad 6 Mehefin 2008 ond rhaid cyflwyno Tasg Arbennig erbyn 4 Mai
Ffi £22.00

Uwch

Diwrnod olaf ar gyfer cofrestru 20 Chwefror 2008
Dyddiad yr arholiad 12/13 Mehefin 2008 ond rhaid anfon Ffolio erbyn 2 Mai
Ffi £37.00

Mae modd archebu'r llyfrynnau sydd yn rhoi gwybod am yr arholiadau hyn trwy'r adran 'Am Ddim' ar www.siopacen.co.uk. Cysylltwch â ni trwy post@acen.co.uk os oes gennych gwestiwn mwy cymhleth.  Byddwn wedyn yn anfon eich enw a'ch cyfeiriad e-bost at swyddogion CBAC.