Telerau ac Amodau Gwerthu

Gofalu am Gwsmeriaid

Mae Acen yn ymroi i wneud ei orau i gynorthwyo'r cwsmer ar bob adeg. Os bydd gan y cwsmer broblem, dylai gysylltu ag Acen trwy e-bost (archebu@siopacen.co.uk) neu drwy'r post. Y cyfeiriad post ydy Acen, Tŷ Ifor, Stryd y Bont, Caerdydd. CF10 2EE. Bydd Acen fel arfer yn ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith er y gall problemau cymhleth gymryd hyd at 14 diwrnod gwaith. Bydd y rhan fwyaf o'r archebion a dderbynnir yn cael eu dosbarthu gan Acen neu gyflenwr a benodir gan Acen. Mae'r cwsmer yn cytuno i adael i Acen roi manylion am yr archeb a'r manylion cyswllt i gyflenwyr a benodir gan Acen i sicrhau dosbarthu'r nwyddau yn gyflym. Weithiau bydd prisiau'n cael eu rhoi mewn doleri neu arian ewro ar y wefan fel canllaw i gwsmeriaid tramor. Y prisiau sterling fodd bynnag fydd yn sail i'r cytundeb.

Nwyddau Arddangos

Nid yw nwyddau arddangos atodol yn cael eu cynnwys yn y prisiau.

Archebu Dros y Ffôn

Gall cwsmeriaid roi archebion i ymgynghorwyr dros y ffôn rhwng 8.30 - 4.30 ar ddiwrnodau gwaith. Y rhif ydy 029 20 300 800. Dylai cwsmeriaid sicrhau bod côd pob eitem a'r cyfeiriad llawn gan gynnwys y côd post a'r manylion talu (math ar gerdyn, rhif a dyddiad dod i ben) wrth law wrth ffonio. Bydd Acen â'r hawl i ystyried bod gan unrhyw gwsmer sy'n archebu dros y ffôn gopi o'r amodau hyn a bod y cwsmer yn cytuno i dderbyn yr amodau yn llawn. Atebir pob galwad yn ddwyieithog. Dylai'r cwsmer agor y sgwrs trwy ddweud bod archeb ganddo ar gyfer Acen.

Archebu drwy'r Post

Mae modd anfon archebion trwy'r post. Dylid cynnwys siec neu archeb bost yn daladwy i Acen. Dylid anfon y ffurflen i Acen, Tŷ Ifor, Stryd y Bont, Caerdydd. CF10 2EE. Dylai'r cwsmer nodi'r amodau sy'n gysylltiedig â chardiau credyd a debyd.

Diwrnodau Gwaith

Dylid nodi nad yw'r term 'diwrnodau gwaith' yn cynnwys penwythnosau, gwyliau banc yn y DU neu wyliau cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw Dydd Gwyl Dewi (1 Mawrth) yn ddiwrnod gwaith.

Cardiau Credyd a Debyd

Mae Acen yn croesawu cardiau credyd neu ddebyd gan gwsmeriaid trwy'r byd. Fodd bynnag, os bydd rhifau anghywir neu fanylion sy'n anghywir neu'n annilys yn cael eu rhoi, bydd Acen yn wynebu costau mewnol ac allanol ychwanegol. Anogir y cwsmer i sicrhau bod y manylion yn gywir er mwyn osgoi taliadau ychwanegol. Os na fydd taliadau a wneir trwy gerdyn yn cael eu hanrhydeddu gan y banc y tro cyntaf iddynt gael eu cyflwyno, a'r cwsmer eisoes wedi derbyn y nwyddau, bydd Acen yn cadw'r hawl i ail-gyflwyno'r taliad hyd at 3 gwaith yn ystod y chwe mis wedi'r archeb ar yr amod na fydd y cwsmer wedi codi unrhyw gwestiwn am yr archeb neu'r taliad.

Dosbarthu Safonol

Bydd nwyddau fel arfer yn cyrraedd cwsmeriaid yn y DU o fewn tri diwrnod o ddyddiad derbyn yr archeb. Bydd archebion ar gyfer cwsmeriaid y tu allan I'r DU hefyd yn cael eu hanfon fel arfer o fewn tri diwrnod gwaith. Mae Acen, fodd bynnag, ond yn ymroi i sicrhau bod nwyddau yn cyrraedd o fewn 30 diwrnod calendr i dderbyn a chadarnhau archeb.

Dosbarthu Cyflym

Mae'r gwasanaeth yn sicrhau y bydd y nwyddau yn cyrraedd o fewn 3 diwrnod gwaith. Mae'r cymal hwn yn ddarostyngedig i'r cymalau sy'n rheoli 'Darparu' a 'Force Majeure' isod.

Dosbarthu Chwap

Gellir gofyn am dderbyn nwyddau yr un diwrnod ar ddiwrnodau gwaith os ydy'r sawl sydd yn derbyn yr archeb yn byw o fewn 5 milltir i ganol Caerdydd. O dderbyn archebion cyn 11 o'r gloch y bore bydd nwyddau yn cyrraedd cyn 5 o'r gloch y prynhawn. Lle bo hynny'n ymarferol bosib i Acen, gwneir trefniadau cludo arbennig ar gais y cwsmeriaid.

Darparu

O bryd i'w gilydd, mae nwyddau'n mynd yn brin ac nid oes modd cadw at y trefniadau dosbarthu arferol. Os digwydd hyn, bydd Acen yn cysylltu â'r cwsmer trwy ffonio neu e-bostio i drafod y mater. Os na fydd y cwsmer wedi rhoi rhif ffôn yn ystod y dydd neu gyfeiriad e-bost neu os na fydd modd cysylltu ar ôl ceisio ddwywaith, bydd Acen yn anfon y nwyddau cyn gynted ag y bo modd. Ar adegau prysur, os na fydd nwyddau penodol ar gael, bydd Acen yn anfon nwyddau tebyg sydd o'r un gwerth neu werth uwch.

Force Majeure

Os na fydd Acen yn medru cyflawni unrhyw un o'i rwymedigaethau o dan yr amodau hyn yn ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiadau sydd y tu allan i reolaeth Acen, ni fydd Acen na'r cwsmer yn ystyried y bydd Acen ar fai. Bydd gan Acen yr hawl i ohirio cyflawni'r rhwymedigaethau hyn hyd nes bydd, ac os bydd, yn gallu cyflawni'r rhwymedigaethau hyn. Mae Force Majeure yn yr achos hwn yn cynnwys gweithredu diwydiannol, methiant technegol neu fecanyddol a gohirio oherwydd unrhyw ddiffyg ar feddalwedd neu feirws meddalwedd.

Unig Gytundeb

Ystyrir y bydd y cwsmer wrth archebu trwy'r wefan, dros y ffôn, trwy'r post neu gyflunydd neu mewn unrhyw ffordd arall â chopi o'r amodau hyn ac yn derbyn yr holl amodau. Mae'r cwsmer yn derbyn mai'r amodau hyn fydd yr unig gytundeb rhwng y cwsmer ac Acen ac na fydd unrhyw gytundeb neu amodau gwerthu neu brynu eraill yn berthnasol i'r cytundeb rhwng y ddau barti.

Gostyngiadau

Mae gostyngiadau ar gael fel arfer os archebir nifer sylweddol o'r un nwyddau. Dylid cysylltu ag Acen i drafod telerau.

TAW

Bydd prisiau yn newid os bydd unrhyw newidiadau yn ngraddfa gyffredin y Deyrnas Unedig ar gyfer Treth ar Werth neu'r amodau sy'n rheoli TAW yn y Deyrnas Unedig. Yn yr achos hwn bydd prislen newydd yn cael ei dosbarthu. Dylai'r cwsmer roi gwybod I Acen wrth archebu os bydd angen derbynneb TAW.

Dychwelyd Nwyddau

Bydd gan y cwsmer hawl i gyfnod 'ymoeri' o saith niwrnod o ddyddiad gosod yr archeb i newid ei feddwl am yr archeb honno. Os bydd Acen wedi anfon y nwyddau yn barod bydd y cwsmer yn dychwelyd y nwyddau ar gost Acen a gwneir ad-daliad cyflawn. Os na fydd Acen wedi anfon y nwyddau diddymir yr archeb ac ni chodir unrhyw dâl ar y cwsmer.

NID yw'r cyfnod ymoeri yn berthnasol os yw'r nwyddau yn neu'n cynnwys tapiau fideo, casetiau sain, disgiau CD, disgiau DVD neu feddalwedd o unrhyw fath.

Ar ôl y saith niwrnod, newidir neu roddir ad-daliadau am nwyddau di-nam fel y gwêl Acen yn dda i wneud hynny. Bydd gofyn i'r cwsmer dalu'r costau cludo. Os rhoddir ad-daliad bydd Acen yn tynnu o'r swm sy'n ddyledus y costau cludo gwreiddiol a ffi gweinyddu a fydd yn cyfateb i 5% o werth yr archeb.

Cysylltu â'r Cwsmer

Mae Acen yn cadw'r hawl, os na fydd y cwsmer yn gwrthod yr hawl, i gysylltu â'r cwsmer â gwybodaeth am gyfleoedd dysgu a nwyddau. Os na fydd y cwsmer yn dymuno derbyn gwybodaeth gan Acen, dylai amgau nodyn i'r perwyl hwnnw â'r archeb. Bydd hawl gan y cwsmer ysgrifennu i ofyn i Acen beidio ag anfon gwybodaeth bellach ar unrhyw adeg.

Amodau Pellach

Nid yw Acen yn cynnig unrhyw warant datganedig neu oblygedig ac eithrio'r gwarantau a gynigir trwy ddeddf gwlad. Ni fydd Acen yn gyfrifol i'r cwsmer nac i unrhyw un arall am unrhyw gostau am golled neu ddifrod, unrhyw dreuliau neu geisiadau eraill am iawndal sy'n deillio yng nghyswllt cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i'r cwsmer. Bydd cyfrifoldeb Acen yn cael ei gyfyngu i bris gwerthu unrhyw nwyddau neu wasanaethau.

Dim ond wrth i Acen dderbyn pris y cytundeb a'r taliadau cludo dyledus a'r dreth yn llawn y trosglwyddir i'r cwsmer y teitl cyfreithiol mewn perthynas â'r nwyddau a werthir. Rheolir yr amodau hyn gan y deddfau sydd yn weithredol yng Nghymru.